Articoli correlati a Taith i Rufain

Taith i Rufain - Brossura

Roger Boore

 
9781784230791: Taith i Rufain

Sinossi

Roger Boore: Arloeswr y teithlyfr llenyddol Cymraeg / Pioneer of Welsh language travel literature.

Gwanwyn heulog yn Rhufain, a'r awdur a'i wraig yn crwydro i fyny ac i lawr y bryniau chwedlonol, o goridorau cain y Vatican i balasau adfeiliog y Palatin Ymerodrol... .

Cânt hufen iâ ar y Piazza Navona, saltimbocca ger y Porta Pia a gorffwys traed yn y Capel Sistaidd...

Mae yma lond gwlad o hanesion difyr am y gorffennol pell ac agos... y Celtiaid cynnar a orchfygodd Rufain (a'i cholli)... y Brython cyntefig a lofruddiodd ddarpar Ymherodr... ailddarganfod y Laocoön... ailddilladu Aphrodite... beirdd crafog ac anffodus... Pabau call, gwirion a milwriaethus... Ymerodron da, drwg, a thrychinebus...

Mae llyfrau taith Roger Boore yn sefyll ar eu pen eu hun yn y Gymraeg.

Le informazioni nella sezione "Riassunto" possono far riferimento a edizioni diverse di questo titolo.

Informazioni sull'autore

Mae gan Roger Boore radd yn y Clasuron o Rydychen a PhD mewn Hanes o Brifysgol Cymru Abertawe. Yn 1970 sefydlodd Wasg y Dref Wen gyda'i wraig Anne. Dyfarnwyd iddo Dlws Mary Vaughan Jones am ei 'gyfraniad nodedig i faes llyfrau plant yng Nghymru dros gyfnod o flynyddoedd' ac urddwyd yn aelod o'r Orsedd am ei 'gyfraniad arbennig' i Gymru a'r Gymraeg. Ganed yng Nghaerdydd ac yno mae'n byw.

Le informazioni nella sezione "Su questo libro" possono far riferimento a edizioni diverse di questo titolo.