Articoli correlati a America a'r Rhyfel Cartref a Fi - Taith i galon...

America a'r Rhyfel Cartref a Fi - Taith i galon y Cymry yn America: Taith i galon y Cymry yn America - Brossura

Griffiths, Huw

 
9781845279912: America a'r Rhyfel Cartref a Fi - Taith i galon y Cymry yn America: Taith i galon y Cymry yn America

Sinossi

Yn 1998, treuliodd yr awdur saith mis yn ymweld ag archifau, llyfrgelloedd a meysydd y gad yn America yn ystod ei ymchwil i ddoethuriaeth ar ran y Cymry yn y Rhyfel Cartref.

Yn y gyfrol hon, cawn ei hanes yn cyfarfod nifer helaeth o Gymry o dras Cymreig. Er bod amryw ohonynt wedi’u cymhathu yn Americanwyr ers sawl cenhedlaeth, maent er hynny’n falch o arddel eu cysylltiad Cymreig. Mae hon yn stori bersonol, llawn cameos difyr, yng nghwmni awdur ffraeth a hunan-ddychanol.

Digwyddiadau a chymeriadau’r Rhyfel Cartref sy’n penderfynu llwybrau’r misoedd hynny. Daw’r hanes yn fyw – hanes sy’n dal i siarad gyda ni heddiw.

“Mewn ystyr ehangach, roedd [Rhyfel Cartref America] yn frwydr dros y syniadau am ryddid, cydraddoldeb a rôl y llywodraeth – cwestiynau sy’n cael eu hadleisio hyd heddiw. Ac roedd y Cymry dros eu pennau a’u clustiau yn rhan o’r holl hylabalŵ yma. Fy rôl i oedd datguddio eu stori.” – Huw Griffiths

This book traces a journey the author undertook over a period of seven months in 1998, when he visited archives, libraries and battlefields across America while conducting doctoral research on the Welsh in the Civil War.

Le informazioni nella sezione "Riassunto" possono far riferimento a edizioni diverse di questo titolo.

Informazioni sull'autore

Ar ôl dros ugain mlynedd o fod yn athro hanes mewn ysgolion uwchradd ac yna ychydig o flynyddoedd fel ymgynghorydd, penderfynodd Huw Griffiths fentro a mynd am swydd uwch ddarlithydd ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Dechreuodd ailystyried ei waith academaidd – yn fwyaf arbennig ei draethawd doethuriaeth ar ran y Cymry yn hanes Rhyfel Cartref America. Yna, daeth y syniad o gyfuno’r ymchwil academaidd â’i brofiadau personol yn teithio America i greu llyfr newydd lle mae’r hanesydd a’r teithiwr yn cyd-fyw ac yn caniatáu mynegiant i ‘lais boi bach o Gwm-twrch’.

Le informazioni nella sezione "Su questo libro" possono far riferimento a edizioni diverse di questo titolo.